Yr anrheg gorau
10 Ion 2012 2 Sylw
in Amrywiaeth Tagiau: LHDT
Dwi’n dipyn o ffan o Sue Sylvester. Wedi’r cyfan, mae gennom ni gryn dipyn yn gyffredin – y ddwy ohonom dros chwe troedfedd o daldra ac yna wrth gwrs yn athrawesau, i enwi ond ychydig. Fum i erioed mor filain a Sue Sylvester – er byddai yna adeg pryd byddai wedi bod yn reit neis gallu bod mor finiog fy nhafod a hi hefo plant drwg Ysgol Friars!
Un o’r anrhegion gorau ges i’r Nadolig yma felly oedd ei hunan-fywgraffiad – “Happy Accidents”. Mae’n hynod hawdd i’w ddarllen ac yn fywiog ac yn gryn dipyn o ysbrydoliaeth. Mae’n amlwg na chafodd hi bethau’n hawdd i ddechrau o ran gwaith a bywyd personol, ond fel pob stori dda mae diwedd hapus. Mae’r pennodau olaf yn arbennig o gyffyrddiadwy a hanes sut y bu i hi a’i gwraig Lara Embry gyfarfod yn ddigon i lonni calon unrhyw un heblaw’r homoffob mwyaf. Mae’n hyfryd darllen hefyd mor naturiol a hapus yw’r berthynas rhwng Jane a Haden, merch Lara.
Roedd hwn yn anrheg Nadolig gwerth chweil ac fe es ati i chwilio am ragor o ddeunydd yn ymwneud a Jane Lynch. Deuthum ar draws y fidio hon ganddi hi a’i gwraig – sy’n rhan o’r prosiect “It gets better”. Allai ddim meddwl am well anrheg i berson LHDT na bod cymaint o bobl a phosibl yn gwylio ac yn rhannu negeseuon fel y rhain. Ag ar ddiwrnod fel heddiw, pan ydym wedi cael un blog-bost digon anwybodus a ffiaidd yn ymwneud a bod yn hoyw, gobeithio bydd hwn yn ychydig o donig.
Y Cwpwrdd
10 Ion 2012 Gadael Sylw
in Creadigol
Roedd Nain yn arddangos ei llestri hardd
yn browd yn ei chwpwrdd cornel
Ond cuddio fy nhrysor wnaf i rhag y byd
fel pe bai ond ysbwriel.
Mae’n “Ab Fab” cael yr “all-clear” a churo cancr
23 Rhag 2011 Gadael Sylw
O blith arlwy Nadoligaidd y BBC, un o’r rhaglenni sydd yn cael y sylw mwyaf ymlaen llaw yw Absolutely Fabulous. Fel un o gyfresi mwyaf poblogaidd ei dydd ac un sy’n parhau i gadw nifer o ddilynwyr ffyddlon, mae’r sylw’n ddigon naturiol. Dyma un o’m hoff sitcoms pan oeddwn yn iau ac rwy’n edrych ymlaen yn arw am ddau episod newydd dros yr ŵyl.
Mae mwy fyth o sylw eleni wrth gwrs oherwydd bod Jennifer Saunders, yr actores sy’n chwarae rhan Edina, ac awdur y gyfres, wedi dioddef cymaint gyda’i iechyd tros y ddwy flynedd diwethaf. Mae wedi bod drwy’r drin go iawn wrth ymdopi yn gyntaf a chancr y fron ac yna a chyfnod o iselder. Un peth sy’n fy ngwneud ychydig yn anghyfforddus wrth ddarllen ei hanes, yw natur y pennawdau a’r iaith a ddefnyddir. Ceir pennawdau dramatig megis “brwydr fuddugoliaethus ” a “curo cancr y fron”. Fel un sydd wedi gweld fy Mam yn gorfod delio a’r cancr hwn ar dri achlysur gwahanol dros y bymtheng mlynedd diwethaf, mae fy nghydymdeimlad llwyr â’i phrofiad ac rwy’n rhannu’n llwyr yn y dathlu ei bod wedi dod mor bell ac yn awr gymaint gwell. Ond fedrai ddim peidio ‘chwaith a theimlo fod yr hanes yn cael ei or-symleiddio ac efallai ychydig yn gamarweiniol. Mor gynnar â Mehefin 2010 roedd y Telegraph a’r Daily Mail yn datgan ei bod wedi cael yr “all-clear” fis ynghynt, a’r “frwydr wedi ei hennill”:
Jennifer Saunders wins cancer battle
Ond stori bur wahanol sydd gan ei gŵr Ade Edmondson, mewn rhifyn diwedd flwyddyn o’r Daily Mail, ac mae’n pwysleisio nad oes y ffasiwn beth â’r “all-clear” mytholegol ac mai marathon nid sbrint yw’r broses:
No one gets the all-clear,’ he says. ‘The treatment lasts five years and we’re only a year into it. The big chemotherapy’s finished and the radiotherapy’s finished. There’s this low-level treatment that carries on for five years, but you know from the beginning of the treatment when it’s going to stop.
Gwyddom ninnau o brofiad na chlywsom y geiriau “all-clear” mor gynnar â hyn ar y daith. Byddai’n hyfryd petai mor syml. Ond mae sawl cam yn y broses o ymladd y salwch, a dim ond pwynt ar y daith yn unig yw’r “all-clear” yma mae’r wasg mor eiddgar i’w chyhoeddi. Yn aml, mae sawl gris i’w dringo cyn cyrraedd pen yr ysgol: llawdrinaeth, triniaeth ddwys megis cemotherapi neu radiotherapi ac yna triniaeth estynedig ar dabledi megis Tamoxifen, Arimidex neu Exemestane. Mae pob cam bach yn fuddugoliaeth fawr ac i’w ddathlu, ond – dim ond wedi dilyn cwrs o’r tabledi hyn am bum mlynedd a chael chec-yps rheolaidd yn y clinig cancr y mae mwyafrif y cleifion yn cael eu “gollwng”. Hwn mewn gwirionedd yw’r “all-clear” go iawn. Medd Ade Edmondson:
‘…it’s not a great three-part TV drama full of moments, it’s a long grind, like a slow car crash that will last five years and then, hopefully, we’ll get out.’
Fe gymer amser, ond yn ein cymdeithas gyflym ni, lle mae pawb eisiau ateb heddiw, lle mae pobl yn colli diddordeb fory, nid oes amynedd i aros ac mae’n rhaid dwyn y stori i ben gyda phennawd sydyn.
Ag wrth gwrs, er gwaethaf pob dewrder, ffeit a pharodrwydd i frwydro, nid yw pawb sy’n wynebu cancr mor ffodus – ag ar drothwy’r Nadolig fel hyn, lle mae pawb yn gweld y bwlch gymaint mwy, rwy’n meddwl amdanoch.
Ond, rhag fy mod yn gorffen ar nodyn rhy anobeithiol – i unrhyw un sydd yn ei chanol hi ar hyn o bryd – daliwch ati, credwch, a chymerwch hi un dydd ar y tro. Mae unrhyw beth yn bosibl. Roedd tiwmor fy Mam a ganfyddwyd yn 1996 yn ddeg centimedr o faint. Roedd hi’n edrych yn hynod ddu a phob Meddyg ac arbennigwr yn methu celu hynny.
“Roedd yr olwg ar ei wynebau yn dweud eu bod wedi nghladdu fi’n barod”
Dyna oedd geiriau Mam.
Ond dair rownd yn ddiweddarach, bymtheng mlynedd i lawr y ffordd, mae hi’n dal hefo ni. Mae’r driniaeth yn gwella o hyd. Bob tro mae’r cancr wedi dychwelyd, mae cyffur newydd wedi bod ar gael. Caiff yr oncolegydd Dr Champion (dyna i chi enw da) y gair olaf :
“You seem to be very fortunate, every time it returns, a new drug has just come out”.
Ddim yn hen gant!
23 Rhag 2011 Gadael Sylw
O ddeutu’r un pryd ag yr oedd Nain yn dathlu ei phenblwydd yn 95 fis diwethaf, roedd Woman’s Weekly hefyd yn dathlu ei ganmlwyddiant. Gan y gwyddwn y byddai Nain yn mwynhau gweld yr hen luniau ynddo, dyna a brynais iddi fel anrheg. Cawsom barti hyfryd yn y cartre’ gyda brechdannau a chacen. Agorodd ei chardiau. Er nad oedd yn cofio pan gyrhaeddom ei bod yn benblwydd arni, buan iawn y gwawriodd arni, yn enwedig wrth agor y llu o gardiau a gweld y rhif 95 ar y mwyafrif ohonynt. Roedd ei phleser yn amlwg, ond yna daeth yn amser agor anrhegion. Ers iddi gael y stroc fawr, felltigedig ddechrau 2009, nid yw Nain prin wedi gallu ynganu unrhyw eiriau. Wrth ddarllen ei gwefusau gallwn ddyfalu ychydig eiriau o bryd i’w gilydd, a bydd ambell i frawddeg fer ddealladwy yn dod allan weithiau, ond prin fel aur yw’r troeon hyn. Gallwch ddychmygu ein rhyfeddod felly pan agorodd ei anrheg gennyf,gweld y rhif 100 ar y clawr a datgan yn uchel a chlir:
CELWYDD!
Pan eglures iddi nes ymlaen mai cylchgrawn ydoedd ac nid cerdyn, roedd yn gwenu. Ond roedd yr ymateb yna yn ddibris ac yn dangos i ni, er gwaetha ei holl anhawsterau, mor finiog oedd yr hen ymennydd a’i deallusrwydd.
Ar ddydd ei phenblwydd, diolch i Woman’s Weekly Nain, cawsom ninnau anrheg – atgof arall melys fydd yn dod â gwên i ni, ac yn para byth.
Helo Kitty!
22 Rhag 2011 Gadael Sylw
Dwi ‘di mwynhau’n hun drwydda draw heddiw.
‘Dio ddiawch o bwys genai os byddai fel brechdan fory,neu hyd yn oed am ddyddiau. Dwi wedi cael fy nymuniad Nadolig – ymweld hefo Nain, yn y cartre’ Nyrsio. Ac roedd hi wrth ei bodd i’m gweld gan nad oeddwn wedi gallu mynd yno ers bron i fis oherwydd y “relapse” gydol Rhagfyr.
Roedd y presant yn plesio hefyd. 
Fe welsom eitem anrhegion Nadolig ar “Wedi 3″, ac un o blith yr eitemau oedd rhywbeth o’r gyfres “Hello Kitty”. Gan mai Kitty yw enw Nain, a gan fod cael presant addas iddi’n beth mor anodd , gan nad yw’n cael bwyta melysion, bisgedi ayyb ers iddi gael y stroc, dyma feddwl y byddai’n hwyl cael rhywbeth o’r fath. Wedi chwilota arlein, dyma ddod o hyd i glustog fflyffi pinc siap calon, a thywel pinc moethus “velour”. Fe welodd yr ochr ddoniol i’r dewis o anrhreg yn syth, ac roedd ei wyneb hi a’r wraig oedd yn eistedd agosaf ati yn bictiwr.
Cafodd Mam a finnau ginio hyfryd wedyn yn y Ty Siocled ym Mhentrefoelas – cawl ffacbys a bacwn. Mae’n hyfryd o le hefo prydau bach sydyn syml blasus i ginio, cacenni da, y coffi gorau yn y byd ac hefyd dewis helaeth o siocledi arbennig wedi eu gwneud a llaw, ynghyd a dewis da o anrhegion o bob math hefyd.
Diwrnod da, diolch i Dduw! Neu hanner diwrnod ddylwn ddweud – amser nap go hir rwan
Y Siwpyrbowl
20 Rhag 2011 Gadael Sylw
in Hwyl
Tybed a fydd S4C yn darlledu’n fyw o’r “digwyddiad” * hwn y penwythnos yma?
Mi wnâi newid o rygbi!
Ond pwy tybed fyddai’n deall rheolau’r gem anghyfarwydd hon? Y “pêl-droed” lle nad oes prin yr un droed yn cyffwrdd y bêl ac yn debycach i rygbi mewn sawl ffordd. Y pêl-droed sy’n terfynnu gyda’r sbloet fawr flynyddol ddechrau Chwefror – y Superbowl, neu fel y dywedodd un trydarwr o Sais y ‘llynedd wrth astudio ei Radio Times: “When is this Superb Owl going to appear?”
Saith mlynedd yn ôl doeddwn innau ‘chwaith yn deall dim am y gem hon, nes i’m mab brynu’r gem Madden ar gyfer ei Blaystation.
Roedd hi mor ddyrys fel y bu’n rhaid i’r ddau ohonom fynd ar y we a gwglo am wybodaeth i geisio deall rhywbeth am y gamp. Daeth canfyddiad cyntaf yr injan chwilio a ni i wefan nfl.com a dyna ddechrau’r chwiw wirion yma. Daeth fy mab Gwi yn ffan o’r Miami Dolphins a dywedodd y dylwn innau ddewis tîm.
“Mi gefnogai’r Dolphins hefyd” medde finnau.
“Na, mae’n rhaid ti gael dy dîm dy hun” oedd ei ateb pendant.
Wel, doedd gena’i ddim syniad pwy i’w ddewis, na pwy oedd chwarter y deuddeg tîm ar hugain sy’n chwarae yn y gynghrair. Ond roeddwn wedi clywed am y Dallas Cowboys a’r Denver Broncos a gan fy mod yn fwy o ffan o Dynasty yn yr 80au ac wedi bod mewn cariad hefo Jeff Colby yn f’arddegau cynnar, fe ddewisiais y Broncos. Ychydig a wyddwn i gymaint fyddai’r byg yn cydio, ac y byddwn y flwyddyn ganlynol yn cael fy apwyntio’n gymedrolwr ar wefan swyddogol y Denver Broncos. Fe gydiodd y clwy pêl-droed ffantasi ‘ma go iawn hefyd ac wedi blwyddyn digon cyffredin i ddechrau, mi ges afael ar bethau wedyn gan ennill aml i bencampwriaeth. Mae un creadur a gurais yn 2007 yn parhau i lyfu ei ddoluriau. Meddyliwch am y peth – merch o Gymru oedd yn gwybod prin ddim am y gem nes 2004 yn curo gwr o Golorado, cefnogwr gydol-oes a pherchen tocyn tymor “club level” (y tocynnau posh, miloedd y flwyddyn) yn y ffeinal!
Un gystadleuol fues i erioed a dim yn rhoi mwy o bleser i mi na chael y llaw uchaf ar y hogiau!
Ond a bod yn deg, mae’r bobl dw i wedi dod ar eu traws wedi bod yn hynod groesawgar a chyfeillgar hefyd a hen bobl go iawn ydi pobl Colorado yn y bon. Bobl mynydd. Gewch chi ddim gwell! A dw i mor falch mai Denver ddewisiais i ag nid Dallas. Mae clywed y cyfryngau yn canu clodydd ac eilun-addoli’r Cowbois neu “America’s team” yn ddigon a chodi cyfog ar unrhyw un. Atoffa rhywun gryn dipyn o fel mae LLoegr yn cael cymaint mwy o sylw ar draul Cymru fach. Dyna pam mae’n debyg dwi’n teimlo mor gartrefol fel cefnogwr yr oren a’r glas.
(* Y “digwyddiad” y cyfeirir ato yw cyfres o ffeinals ffantasi ffwtbol)
Y stori’n parhau…
19 Rhag 2011 Gadael Sylw
Dwi heb ‘sgwennu ers oes Adda!
Dechi’n gwybod pam? Wel, achos bod y stori wedi bod ar y botwm “pause”.
A dweud y gwir mae wedi bod mor araf a phlot Porth Penwaig!
Ond mae’n symud ymlaen rwan, nid yn y ffordd oeddwn i’n ei ddisgwyl efallai, ond mae’n parhau…
Dwi bellach yn blogio’n bennaf ar y wefan Tumblr.
Dyma ran fechan o’r hyn ysgrifennais i yno:
Er mod i gymaint gwell yn ystod y 4 blynedd dwetha, yn amrywio o 25-40 ar y raddfa anabledd ME, sydd yn frenin o’i gymharu a’r 10-20 yn ystod y blynyddoedd blaenorol, mae’n dal i fod yn her fawr ceisio byw o ddydd i ddydd. Dwi’n caru bywyd, dwi’n codi’n obeithiol bob dydd, ond mae hyd yn oed y pethau sylfaenol yn dwyn y dogn helaethaf o’m nerth ac o bryd i’w gilydd maent yn mynd yn drech na fi. Un peth yn arbennig dwi’n ganfod yn ddiweddar, ydi’r angen i fynegi yr hyn sydd wedi digwydd yn ystod y pedair blynedd ar ddeg gyntaf, cyfnod pryd oeddwn i’n rhy sal y rhan helaethaf o’r amser i allu siarad a rhannu dim. Bob tro dwi’n cael “relapse” y dyddiau yma, mae fel mynd yn ol mewn peiriant amser i’r cyfnod hwnnw a gan fy mod i rwan “yn well” (yn yr ystyr gymharol o leiaf), dwi’n ffendio fy mod o’r diwedd yn gallu rhoi llais i’r hyn a ddigwyddodd yn y cyfnod hwnnw. Mae’n gas gen i wneud. Mi fyddai lawer gwell gen i rannu stori fach neis neis o ricyfro. Dyna’r stwff ma bobl yn licio ynde. Ond er mwyn y llwythi sydd allan yne ag yn dal i ddiodde o gyflyrau chronig difrifol o ddydd i ddydd, falle bod y cyfnod yma’n fendith ac mai fy joben i yw i roi llais i’ch profiad chi a finnau.
Disgwyl wrth yr Arglwydd
10 Gor 2010 Gadael Sylw
Gofynwyd i fi rannu mhrofiad o’m salwch hir yng Nghylchlythyr y Weinidogaeth Iachau yn ddiweddar. Yna fe ymddangosodd yn Rhwydwaith a dyma’r hanes (wedi ei gwtogi gan Mari Fflur):
PROFIAD PERSONOL Y WEINIDOGAETH IACHAU
Yn 1954 sefydlodd Eglwys Bresbyteraidd Cymru fudiad iachau i annog dealltwriaeth o, ac ymarfer iachau Cristnogol. Ers hynny, mae nifer fawr o bobl wedi ymwneud a’r Weinidogaeth Iachau. Un o’r rheiny yw Mererid Jones o’r Bala, sy’n disgrifio ei phrofiadau yma:
Trwy fy mam y deuthum i gyswllt a’r Weinidogaeth Iachau. Ym mis Gorffennaf 1997, yn dilyn deunaw mis caled o ymladd yn erbyn cancr y fron, cafodd gyfle i gynrychioli’r Henaduriaeth yn Ysgol Haf y Weinidogaeth Iachau yn Llanbedr. Petrusgar braidd ydoedd, hithau fel finnau a fawr syniad beth i’w ddisgwyl. Ond disail oedd ein hofnau. Dychwelodd yn llawn brwdfrydedd, yn dawelach ei meddwl ac wedi debyn adnewyddiad a nerth.
Yn ddiarwybod i mi, yn ystod y Gwasanaeth Bendithio ar y dydd terfynol, roedd fy mam wedi gofyn bendith drostaf. Y dydd canlynol, penderfynais wrando’r tap o’r Gwasanaeth Agoriadol roedd mam wedi ddod adref hefo hi. Tua hanner ffordd trwy’r tap, yng nghanol un o’m hoff emynau, I Dduw bo’r Gogoniant, cefais y profiad mwyaf eithriadol dwi wedi ei gael erioed.
Er nad oedd dim o’r fath wedi digwydd i mi o’r blaen, gwyddwn ar unwaith fod rhywbeth rhyfeddol yn digwydd. Daeth ton drydanol drostaf ac onibai fy mod yn gorwedd mae’n debyg y byddwn wedi cael fy mwrw i’r llawr. Daeth teimlad o dangnefedd a chyffro eithriadol yr un pryd a hynny’n mynd ymlaen ac ymlaen yn ddiddiwedd. Ac yna ar y diwedd, dagrau o lawenydd a beichio crio fel erioed o’r blaen wrth dderbyn sicrwydd llwyr mod i’n mynd i gael iachad.
Ond ches i ddim mynd yn syth o’r Aifft i wlad yn lliferio o laeth a mel. Erbyn gwanwyn 1998, roedd yn amlwg fod fy iechyd yn dirywio. Daeth yn stop llwyr arnaf. Roedd hon yn ergyd a hanner a chyfnod digon llwm ydoedd, gydag ambell i brofiad annifyr iawn, megis y frwydr hir ddeunaw mis i adfer fy mudd-dal anabledd.
DISGWYL WRTH YR ARGLWYDD
Ond er gwaethaf yr anawsterau, roeddwn i’n dal i deimlo Duw hefo fi. Daeth ambell i Salm ac emyn i olygu cryn dipyn ac roeddwn yn synhwyro llais Duw trwyddynt. Fe’m cyfeirwyd at Salm 27 a daeth yr adnod olaf “Disgwyl wrth yr Arglwydd, bydd gryf a gwrol dy galon a disgwyl wrth yr Arglwydd” yn gryn gynhaliaeth i mi. Roeddwn yn cadw hyn yn fy meddwl wrth i bethau fynd o ddrwg i waeth.
Erbyn 2002 doeddwn prin yn medru bwyta. Ond yna dangosodd profion fod y lefel gwenwyn merciwri yn fy nghorff ddengwaith yn uwch na’r lefelau derbyniol. Tros gyfnod o ddwy flynedd, bum yn mynd yn ol ag ymlaen at ddeintydd arbennig i newid y llenwadau. Roedd yn artaith o broses a rhaid oedd wrth seibiau hir rhwng pob apwyntiad, ond roedd rhaid ei wneud i gael unrhyw obaith o wella.
TROI AR WELLA
Llamwn ymlaen ddegawd o’r profiad gwreiddiol i 2007. Ym Mai cefais brofiad a roddodd gryn hwb i mi. Ond y tro hwn roedd tyst yna hefyd, ffrind oedd wedi ddod i aros ataf. Unwaith eto, tra’n gorwedd ar fy ngwely, teimlais don o rym anhygoel yn mynd trwy fy nghorff a’r ymdeimlad fod fy nghyhyrau a’m cymalau a’m holl esgyrn yn cael eu trin. Drannoeth, roeddwn yn teimlo gryn dipyn cryfach, ac wythnos yn ddiweddarach roedd fy “reflexologist” wedi rhyfeddu at fy nhraed. Dros nos mwy neu lai roeddent wedi newid o fod yn prin mwy na chroen ag esgyrn i fod a chnawd arnynt!
Dwi’n falch nawr o ddweud nad ydw i wedi gorfod defnyddio fy nghadair olwyn drydan ers rhyw flwyddyn a hanner. Gallaf gerdded hyd at ganllath ar y mwyafrif o ddyddiau. Mae bywyd yn llawer llawnach ac rwyf hefyd wedi cael rhywfaint o’m annibyniaeth yn ol, gan fy mod bellach yn medru gyrru yn lleol hefyd. Hyfryd yw gallu mynd i lawr at y llyn rhyw unwaith neu ddwy yr wythnos a chael mwynhau’r olygfa odidog yn hytrach na phedair wal.
Mae wedi bod yn frwydr ond dwi ddim yn credu byddwn i lle rydw i rwan heb ffydd i nghynnal a gweddiau llawer o bobl ffyddlon. Mae Duw yn ymateb i’n gweddiau. Weithiau mae’r canlyniadau’n ddramatig, weithiau yn fwy tawel, ond mae’n ein clywed ac yn ein cynnal wastad. I Dduw bo’r gogoniant a’r diolch.
Dyma fy stori, dyma fy nghan
09 Gor 2010 Gadael Sylw
Daw teitl y blog hwn o gytgan un o’m hoff emynau, Sicrwydd Bendigaid gan Frances J Van Alstyne.
Dyma emynyddes sydd a stori ryfeddol.
Roedd Iesu hefyd yn hoff iawn o storiau. Nid athrawiaethu a gosod rheolau oedd ei brif gyfrwng cyfathrebu, ond y stori ar ffurf dameg ac alegori. Gwyddai fod yna rywbeth mewn stori oedd yn cyffwrdd a phobl mewn modd na allai dysgeidiaeth ffurfiol sych. Roedd rhywbeth yn real ynglyn a stori, rhywbeth allai pobl gydio ynddo ac uniaethu ag ef. Rhywbeth hefyd i wneud i bobl feddwl a chwestiynnu, i chwilio a myfyrio.
Rhannu rhywfaint o’m stori fy hunan wrth imi ymdopi a salwch, ymrafael ag ambell i sefyllfa go ddyrys yw fy ngobaith yn y blog hwn. Rhannu hefyd straeon bach bob dydd ac wrth gwrs straeon pobl llawer mwy diddorol na fi ynghyd ag unrhyw beth arall sy’n mynd a’m diddordeb.
+++
Sicrwydd bendigaid! Iesu yn rhan,
Hyn ydyw ernes nef yn y man;
Aer iachawdwriaeth, pryniant a wnaed,
Ganed o’r Ysbryd, golchwyd a’i waed.Dyma fy stori, dyma fy nghan,
Canmol fy Ngheidwad hawddgar a glan;
Dyma fy stori, dyma fy nghan,
Canmol fy Ngheidwad hawddgar a glan.Ildio’n ddiamod, perffaith fwynhad,
Profi llawenydd, nefol ryddhad;
Engyl yn disgyn, dygant i’m clyw
Adlais trugaredd, cariad fy Nuw.Idio’n ddiamod, dyma fy hedd,
Allwedd fy nghysur, Iesu a’i medd;
Aros a disgwyl, disgwyl bob dydd,
Llonni yng nghariad Arglwydd y ffydd.FRANCES J. VAN ALSTYNE, 1820-1915
efel.GWILYM R. TILSLEY