Yr anrheg gorau

Dwi’n dipyn o ffan o Sue Sylvester. Wedi’r cyfan, mae gennom ni gryn dipyn yn gyffredin – y ddwy ohonom dros chwe troedfedd o daldra ac yna wrth gwrs yn athrawesau, i enwi ond ychydig.  Fum i erioed mor filain a Sue Sylvester – er byddai yna adeg pryd byddai wedi bod yn reit neis gallu bod mor finiog fy nhafod a hi hefo plant drwg Ysgol Friars!

Un o’r anrhegion gorau ges i’r Nadolig yma felly oedd ei hunan-fywgraffiad – “Happy Accidents”. Mae’n hynod hawdd i’w ddarllen ac yn fywiog ac yn gryn dipyn o ysbrydoliaeth. Mae’n amlwg na chafodd hi bethau’n hawdd i ddechrau o ran gwaith a bywyd personol, ond fel pob stori dda mae diwedd hapus. Mae’r pennodau olaf yn arbennig o gyffyrddiadwy a hanes sut y bu i hi a’i gwraig Lara Embry gyfarfod yn ddigon i lonni calon unrhyw un heblaw’r homoffob mwyaf. Mae’n hyfryd darllen hefyd mor naturiol a hapus yw’r berthynas rhwng Jane a Haden, merch Lara.

Roedd hwn yn anrheg Nadolig gwerth chweil ac fe es ati i chwilio am ragor o ddeunydd yn ymwneud a Jane Lynch. Deuthum ar draws y fidio hon ganddi hi a’i gwraig – sy’n rhan o’r prosiect “It gets better”. Allai ddim meddwl am well anrheg i berson LHDT na bod cymaint o bobl a phosibl yn gwylio ac yn rhannu negeseuon fel y rhain. Ag ar ddiwrnod fel heddiw, pan ydym wedi cael un blog-bost digon anwybodus a ffiaidd yn ymwneud a bod yn hoyw, gobeithio bydd hwn yn ychydig o donig.

2 Sylw (+add yours?)

  1. Sigrun
    Ion 11, 2012 @ 11:44:22

    I love Sue Sylvester (and I can make out that you’re a fan of her in the first sentence?!). Great little video, thank you.

    Ymateb

  2. Pysgodyn_Piws
    Ion 11, 2012 @ 13:59:04

    She is quite inspiring Sigrun. Jo gave me “Happy Accidents” as a Christmas present. It was the “anrheg gorau” (best present). It led to me seeking out more Jane Lynch stuff and I came across this little video. I think positive messages like this are precious gifts in themselves :)

    Ymateb

Gadael Ymateb

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Follow

Get every new post delivered to your Inbox.