Mae’n “Ab Fab” cael yr “all-clear” a churo cancr

O blith arlwy Nadoligaidd y BBC, un o’r rhaglenni sydd yn cael y sylw mwyaf ymlaen llaw yw Absolutely Fabulous. Fel un o gyfresi mwyaf poblogaidd ei dydd ac un sy’n parhau i gadw nifer o ddilynwyr ffyddlon, mae’r sylw’n ddigon naturiol. Dyma un o’m hoff sitcoms pan oeddwn yn iau ac rwy’n edrych ymlaen yn arw am ddau episod newydd dros yr ŵyl.

Mae mwy fyth o sylw eleni wrth gwrs oherwydd bod Jennifer Saunders, yr actores sy’n chwarae rhan Edina, ac awdur y gyfres, wedi dioddef cymaint gyda’i iechyd tros y ddwy flynedd diwethaf. Mae wedi bod drwy’r drin go iawn wrth ymdopi yn gyntaf a chancr y fron ac yna a chyfnod o iselder.  Un peth sy’n fy ngwneud ychydig yn anghyfforddus wrth ddarllen ei hanes, yw natur y pennawdau a’r iaith a ddefnyddir. Ceir pennawdau dramatig megis  “brwydr fuddugoliaethus ” a “curo cancr y fron”. Fel un sydd wedi gweld fy Mam yn gorfod delio a’r cancr hwn ar dri achlysur gwahanol dros y bymtheng mlynedd diwethaf, mae fy nghydymdeimlad llwyr â’i phrofiad ac rwy’n rhannu’n llwyr yn y dathlu ei bod wedi dod mor bell ac yn awr gymaint gwell. Ond fedrai ddim peidio ‘chwaith a theimlo fod yr hanes yn cael ei or-symleiddio ac efallai ychydig yn gamarweiniol. Mor gynnar â Mehefin 2010 roedd y Telegraph a’r Daily Mail yn datgan ei bod wedi cael yr “all-clear” fis ynghynt, a’r “frwydr wedi ei hennill”:

Jennifer Saunders wins cancer battle

Battle to beat breast cancer

Ond stori bur wahanol sydd gan ei gŵr Ade Edmondson, mewn rhifyn diwedd flwyddyn o’r Daily Mail, ac mae’n pwysleisio nad oes y ffasiwn beth â’r “all-clear” mytholegol ac mai marathon nid sbrint yw’r broses:

No one gets the all-clear,’ he says. ‘The treatment lasts five years and we’re only a year into it. The big chemotherapy’s finished and the radiotherapy’s finished. There’s this low-level treatment that carries on for five years, but you know from the beginning of the treatment when it’s going to stop.

Our year of hell

Gwyddom ninnau o brofiad na chlywsom y geiriau “all-clear” mor gynnar â hyn ar y daith. Byddai’n hyfryd petai mor syml. Ond mae sawl cam yn y broses o ymladd y salwch, a dim ond pwynt ar y daith yn unig yw’r “all-clear” yma mae’r wasg mor eiddgar i’w chyhoeddi. Yn aml, mae sawl gris i’w dringo cyn cyrraedd pen yr ysgol:  llawdrinaeth, triniaeth ddwys megis cemotherapi neu radiotherapi ac yna triniaeth estynedig ar dabledi megis Tamoxifen, Arimidex neu Exemestane. Mae pob cam bach yn fuddugoliaeth fawr ac i’w ddathlu, ond – dim ond wedi dilyn cwrs o’r tabledi hyn am bum mlynedd a chael chec-yps rheolaidd yn y clinig cancr y mae mwyafrif y cleifion yn cael eu “gollwng”. Hwn mewn gwirionedd yw’r “all-clear” go iawn. Medd Ade Edmondson:

‘…it’s not a great three-part TV drama full of moments, it’s a long grind, like a slow car crash that will last five years and then, hopefully, we’ll get out.’

Fe gymer amser, ond yn ein cymdeithas gyflym ni, lle mae pawb eisiau ateb heddiw,  lle mae pobl yn colli diddordeb fory, nid oes amynedd i aros ac mae’n rhaid dwyn y stori i ben gyda phennawd sydyn.

Ag wrth gwrs, er gwaethaf pob dewrder, ffeit a pharodrwydd i frwydro, nid yw pawb sy’n wynebu cancr mor ffodus – ag ar drothwy’r Nadolig fel hyn, lle mae pawb yn gweld y bwlch gymaint mwy, rwy’n meddwl amdanoch.

Ond, rhag fy mod yn gorffen ar nodyn rhy anobeithiol – i unrhyw un sydd yn ei chanol hi ar hyn o bryd – daliwch ati, credwch, a chymerwch hi un dydd ar y tro. Mae unrhyw beth yn bosibl. Roedd tiwmor fy Mam a ganfyddwyd yn 1996 yn ddeg centimedr o faint. Roedd hi’n edrych yn hynod ddu a phob Meddyg ac arbennigwr yn methu celu hynny.

“Roedd yr olwg ar ei wynebau yn dweud eu bod wedi nghladdu fi’n barod”

Dyna oedd geiriau Mam.

Ond dair rownd yn ddiweddarach, bymtheng mlynedd i lawr y ffordd,  mae hi’n dal hefo ni. Mae’r driniaeth yn gwella o hyd. Bob tro mae’r cancr wedi dychwelyd, mae cyffur newydd wedi bod ar gael. Caiff yr oncolegydd Dr Champion (dyna i chi enw da) y gair olaf :

“You seem to be very fortunate, every time it returns, a new drug has just come out”.

Gadael Ymateb

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Follow

Get every new post delivered to your Inbox.