Ddim yn hen gant!
23 Rhag 2011 Gadael Sylw
O ddeutu’r un pryd ag yr oedd Nain yn dathlu ei phenblwydd yn 95 fis diwethaf, roedd Woman’s Weekly hefyd yn dathlu ei ganmlwyddiant. Gan y gwyddwn y byddai Nain yn mwynhau gweld yr hen luniau ynddo, dyna a brynais iddi fel anrheg. Cawsom barti hyfryd yn y cartre’ gyda brechdannau a chacen. Agorodd ei chardiau. Er nad oedd yn cofio pan gyrhaeddom ei bod yn benblwydd arni, buan iawn y gwawriodd arni, yn enwedig wrth agor y llu o gardiau a gweld y rhif 95 ar y mwyafrif ohonynt. Roedd ei phleser yn amlwg, ond yna daeth yn amser agor anrhegion. Ers iddi gael y stroc fawr, felltigedig ddechrau 2009, nid yw Nain prin wedi gallu ynganu unrhyw eiriau. Wrth ddarllen ei gwefusau gallwn ddyfalu ychydig eiriau o bryd i’w gilydd, a bydd ambell i frawddeg fer ddealladwy yn dod allan weithiau, ond prin fel aur yw’r troeon hyn. Gallwch ddychmygu ein rhyfeddod felly pan agorodd ei anrheg gennyf,gweld y rhif 100 ar y clawr a datgan yn uchel a chlir:
CELWYDD!
Pan eglures iddi nes ymlaen mai cylchgrawn ydoedd ac nid cerdyn, roedd yn gwenu. Ond roedd yr ymateb yna yn ddibris ac yn dangos i ni, er gwaetha ei holl anhawsterau, mor finiog oedd yr hen ymennydd a’i deallusrwydd.
Ar ddydd ei phenblwydd, diolch i Woman’s Weekly Nain, cawsom ninnau anrheg – atgof arall melys fydd yn dod â gwên i ni, ac yn para byth.