Y Siwpyrbowl

Tybed a fydd S4C yn darlledu’n fyw o’r “digwyddiad” * hwn y penwythnos yma? ;-)

Mi wnâi newid o rygbi!

Ond pwy tybed fyddai’n deall rheolau’r gem anghyfarwydd hon? Y “pêl-droed” lle nad oes prin yr un droed yn cyffwrdd y bêl ac yn debycach i rygbi mewn sawl ffordd. Y pêl-droed sy’n terfynnu gyda’r sbloet fawr flynyddol ddechrau Chwefror – y Superbowl, neu fel y dywedodd un trydarwr o Sais y ‘llynedd wrth astudio ei Radio Times: “When is this Superb Owl going to appear?”

Saith mlynedd yn ôl doeddwn innau ‘chwaith yn deall dim am y gem hon, nes i’m mab brynu’r gem Madden ar gyfer ei Blaystation. Roedd hi mor ddyrys fel y bu’n rhaid i’r ddau ohonom fynd ar y we a gwglo am wybodaeth i geisio deall rhywbeth am y gamp. Daeth canfyddiad cyntaf yr injan chwilio a ni i wefan nfl.com a dyna ddechrau’r chwiw wirion yma. Daeth fy mab Gwi yn ffan o’r Miami Dolphins a dywedodd y dylwn innau ddewis tîm.

“Mi gefnogai’r Dolphins hefyd” medde finnau.

“Na, mae’n rhaid ti gael dy dîm dy hun” oedd ei ateb pendant.

Wel, doedd gena’i ddim syniad pwy i’w ddewis, na pwy oedd chwarter y deuddeg tîm ar hugain sy’n chwarae yn y gynghrair. Ond roeddwn wedi clywed am y Dallas Cowboys a’r Denver Broncos a gan fy mod yn fwy o ffan o Dynasty yn yr 80au ac wedi bod mewn cariad hefo Jeff Colby yn f’arddegau cynnar, fe ddewisiais y Broncos. Ychydig a wyddwn i gymaint fyddai’r byg yn cydio, ac y byddwn y flwyddyn ganlynol yn cael fy apwyntio’n gymedrolwr ar wefan swyddogol y Denver Broncos. Fe gydiodd y clwy pêl-droed ffantasi ‘ma go iawn hefyd ac wedi blwyddyn digon cyffredin i ddechrau, mi ges afael ar bethau wedyn gan ennill aml i bencampwriaeth. Mae un creadur a gurais yn 2007 yn parhau i lyfu ei ddoluriau. Meddyliwch am y peth – merch o Gymru oedd yn gwybod prin ddim am y gem nes 2004 yn curo gwr o Golorado, cefnogwr gydol-oes a pherchen tocyn tymor “club level” (y tocynnau posh, miloedd y flwyddyn) yn y ffeinal!

Un gystadleuol fues i erioed a dim yn rhoi mwy o bleser i mi na chael y llaw uchaf ar y hogiau! :-) Ond a bod yn deg, mae’r bobl dw i wedi dod ar eu traws wedi bod yn hynod groesawgar a chyfeillgar hefyd a hen bobl go iawn ydi pobl Colorado yn y bon. Bobl mynydd. Gewch chi ddim gwell! A dw i mor falch mai Denver ddewisiais i ag nid Dallas. Mae clywed y cyfryngau yn canu clodydd ac eilun-addoli’r Cowbois neu “America’s team” yn ddigon a chodi cyfog ar unrhyw un. Atoffa rhywun gryn dipyn o fel mae LLoegr yn cael cymaint mwy o sylw ar draul Cymru fach. Dyna pam mae’n debyg dwi’n teimlo mor gartrefol fel cefnogwr yr oren a’r glas.

(* Y “digwyddiad” y cyfeirir ato yw cyfres o ffeinals ffantasi ffwtbol)

Gadael Ymateb

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Follow

Get every new post delivered to your Inbox.